Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023
Amser:
09.15 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13433
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Natasha Asghar AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Archwilio Cymru: |
Matthew Mortlock Richard Harries Mark Jeffs Seth Newman |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Lisa Hatcher (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol at y Cadeirydd ar yr Adolygiad Teilwredig
2.2 Llythyr gan Lywodraeth Cymru ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol ar y Bil Caffael
2.3 Llythyr gan Lywodraeth Cymru at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Adroddiad Archwilio Cymru - Darlun o Reoli Perygl Llifogydd
4.1 Cafodd yr Aelodau bapur briffio gan Archwilio Cymru ar ei adroddiad, 'Darlun o Reoli Perygl Llifogydd'.
5 Adroddiad Drafft - Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.